Y Pwyllgor Menter a Busnes 20 Mawrth 2014
Y diweddaraf ar Gronfeydd Strwythurol 2014-2020 yr UE gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid
Papur Tystiolaeth
Cyflwyniad
1. Mae’r papur hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ddatblygiad rhaglenni Cronfeydd Strwythurol yr U Ear gyfer 2014-2020.
2.
Bydd y
rhaglenni hyn yn cefnogi swyddi a thwf economaidd cynaliadwy yn
unol ag Ewrop 2020 a’n Rhaglen Lywodraethu.
3. Mae’r rhaglenni wedi’u hen ddatblygu bellach ac rydym mewn sefyllfa i’w cyflwyno’n ffurfiol i’r Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, ni allwn wneud hynny tan i Gytundeb Partneriaeth y DU gael ei gyflwyno’n ffurfiol.
Pecyn Deddfwriaethol y Cronfeydd Strwythurol
4. Mabwysiadwyd pecyn deddfwriaethol yr UE ym mis Rhagfyr 2013, sy’n golygu bod y Comisiwn Ewropeaidd yn gallu derbyn Cytundebau Partneriaeth a chynigion rhaglen yn ffurfiol bellach gan Aelod Wladwriaethau.
5. Ar ôl eu cyflwyno’n ffurfiol, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gallu asesu a thrafod y Cytundebau Partneriaeth a’r Rhaglenni Gweithredol er mwyn i ranbarthau, gan gynnwys Cymru, allu dechrau gwneud penderfyniadau buddsoddi cyn gynted â phosibl yn 2014.
6.
Mae
Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfraniad pwysig, drwy gynrychiolaeth
Barhaol y DU yn yr UE, at ddatblygu pecyn deddfwriaethol drafft i
helpu i gyflawni ein nodau ar gyfer symleiddio ac integreiddio
Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd[1]
i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl.
7. Rwy’n siarad yn gyson â Gweinidog Busnes a Menter y DU a Gweinidog Ewrop y DU i fonitro datblygiadau a chyfleu blaenoriaethau Cymru’n glir a hefyd gydag ASEau Cymru, sydd wedi bod yn ddylanwadol iawn yn y cyfnod hwn o drafodaethau yn Senedd Ewrop. Rwy’n awyddus i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r Comisiwn Ewropeaidd i bwysleisio manteision Cronfeydd Strwythurol yr UE i bobl Cymru: fis yn ôl, cefais gyfle i gyfarfod â László Andor, Comisiynydd Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynhwysiant Ewrop, i arddangos ein prosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop; ac yn ddiweddarach yn y mis byddaf yn cyfarfod y Comisiynydd Hahn, Comisiynydd Polisi Rhanbarthol Ewrop. Yn gynharach yn y mis, bu i mi gyfarfod Cynrychiolaeth Barhaol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd i drafod cynnydd o ran datblygu rhaglenni 2014-2020.
Cytundeb Partneriaeth y DU
8. Mae’r Adran, Busnes, Arloesi a Sgiliau yn arwain y gwaith o baratoi Cytundeb Partneriaeth y DU. Mae’r gwaith o gwblhau’r ddogfen wedi’i oedi gan nifer o ffactorau, gan gynnwys amserlen arafach ar gyfer datblygu’r rhaglen Wledig a rhaglen y Cronfeydd Strwythurol yn Lloegr. Mae’r oedi hwn wedi deillio’n rhannol o’r angen i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ymgynghori â’r Partneriaethau Menter Lleol newydd, a fydd yn gweinyddu’r cronfeydd yn Lloegr, ac mae llawer ohonynt yn eu cyfnod ffurfiannol o hyd.
9. Yn ogystal â hyn cyflwynodd Rhanbarthau Dinas Lerpwl a Sheffield her gyfreithiol y llynedd mewn perthynas â dyraniad Cronfeydd Strwythurol yn Lloegr a arweiniodd at waharddeb yn atal yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau rhag datgelu dyraniadau ariannol arfaethedig y DU i’r Comisiwn (gofyniad allweddol o’r Cytundeb Partneriaeth).
10. Cafodd yr achos ei ystyried gan yr Uchel Lys ddiwedd mis Ionawr, gyda’r Llys yn penderfynu bod yr her wedi methu ar bob sail wirioneddol. Fodd bynnag, diddymwyd penderfyniad y Llywodraeth ar ddyraniad y Cronfeydd Strwythurol ledled y DU mewn perthynas â’r hyn a ystyriwyd yn dordyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel rhan o’r broses benderfynu. Mae hyn wedi’i gwneud yn ofynnol i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ailystyried ei Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb. Rydym yn deall bod y ddau ranbarth sy’n cyflwyno’r achos yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys.
11. Ar wahân, mae methiant yng Ngogledd Iwerddon i gofrestru trosglwyddiad adnoddau o Golofn 1 (y Taliad Sengl) i Golofn 2 (Rhaglen Datblygu Gwledig) rhaglen Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig wedi golygu nad yw gweinyddiaeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon wedi gallu cwblhau unrhyw gynigion buddsoddi cysylltiedig: ac mae angen y manylion hyn i gwblhau Cytundeb Partneriaeth y DU. Gallai absenoldeb y manylion hyn olygu bod y Comisiwn Ewropeaidd yn dyfarnu bod y Cytundeb Partneriaeth yn annerbyniadwy. Mae swyddogion Gogledd Iwerddon a Chynrychiolaeth Barhaol y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd yn pwyso a mesur opsiynau posibl i oresgyn y broblem hon gyda’r Comisiwn ar hyn o bryd.
12. Cyflwynwyd drafft o Gytundeb Partneriaeth y DU i’r CE ar gyfer ymgynghoriad anffurfiol rhwng gwasanaethau ym mis Tachwedd 2013. Roedd yr adborth anffurfiol a dderbyniwyd ar 20 Rhagfyr yn tynnu sylw at faterion ym mhob pennod. Bwysicaf oll, roedd y CE yn ystyried bod pennod Lloegr angen ei datblygu ymhellach o ran egluro a chyfiawnhau’r buddsoddiadau arfaethedig (gan gynnwys cynigion gwledig) ac roeddynt am weld pennod y DU yn cyfleu darlun mwy cyflawn a chydlynol.
13. Cafodd Pennod Cymru ei chadarnhau gan y Cabinet fis Medi y llynedd a’i chyhoeddi ar wefan WEFO ym mis Tachwedd 2013. Mae wedi’i groesawu ar y cyfan gan y Comisiwn, heb unrhyw faterion pwysig wedi’u codi yn adborth y Comisiwn i’r ymgynghoriad anffurfiol rhwng gwasanaethau ym mis Rhagfyr. Yn ôl y disgwyl, mae’r Comisiwn wedi’n herio ymhellach ynglŷn â’n buddsoddiad arfaethedig mewn TGCh a seilwaith trafnidiaeth; rydym yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth i gyflwyno’r achos ar gyfer y buddsoddiadau hyn i swyddogion CE.
Datblygiad y Rhaglenni Gweithredol
14.Ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd drafft Pennod Cymru o’r Cytundeb Partneriaeth ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd y cynigion rhaglen drafft (y “Rhaglenni Gweithredol”) ar wefan WEFO. Er mai drafftiau oedd y rhain a bod angen eu trafod, teimlais ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi cymaint o amser â phosibl i’n partneriaid ledled Cymru ar gyfer cynllunio a datblygu cynigion buddsoddi ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o ystyried yr oedi cyn trafod rheoliadau a chyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio ar y drafftiau hyn er mwyn mynd i’r afael ag adborth gan y Comisiwn Ewropeaidd ac o ystyried y sylwadau terfynol gan rag-werthuswyr annibynnol.
15.Mae’r oedi cyn cyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU yn effeithio ar ein gallu i gyflwyno’n Rhaglenni Gweithredol yn ffurfiol a dechrau trafodaethau ffurfiol â’r CE. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Comisiwn ar sail anffurfiol gyda’r bwriad o fyrhau trafodaethau ffurfiol yn sgil hynny. Mae’r adborth manwl diweddaraf a dderbyniwyd gan y Comisiwn ym mis Chwefror yn awgrymu bod ein cynigion wedi’u croesawu ar y cyfan a’n bod gryn dipyn ar y blaen i’n cymheiriaid yn y DU.
16.Rydym mewn sefyllfa i allu cyflwyno’n Rhaglenni Gweithredol yn ffurfiol ar yr un adeg â Chytundeb Partneriaeth y DU. O ystyried y trafodaethau cadarnhaol hyd yma, rydym yn gobeithio gweld cyfnod trafod cymharol fyr ar ein rhaglenni, ond ni allwn gael cymeradwyaeth ffurfiol i’n Rhaglenni Gweithredol tan i Gytundeb Partneriaeth y DU gael ei gymeradwyo’n ffurfiol.
Amserlen
17. Mae’r gwaith hirfaith sy’n gysylltiedig ag ymateb i sylwadau’r Comisiwn ac adolygu dyraniadau ariannol, yn sgil yr Adolygiad Barnwrol, wedi achosi i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau gynnig amserlen ddiwygiedig ar gyfer cyflwyno Cytundeb Partneriaeth y DU yn gynnar ym mis Ebrill 2014.
18. Mae swyddogion WEFO yn rhan o grŵp drafftio’r DU ac yn parhau i weithio’n agos gyda’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau i sicrhau y cyflawnir y gwaith o fewn yr amserlen hon, gan gynnwys arwain y gwaith o ddatblygu Fframwaith Perfformiad y DU. Fodd bynnag, o ystyried y materion sydd heb eu datrys a nodir uchod, mae pryderon yn parhau y gallai lithro ymhellach tuag at y dyddiad cau rheoleiddiol ar gyfer cyflwyno, sef 22 Ebrill 2014.
Trefniadau gweithredu
19. Ar hyn o bryd, mae WEFO yn cwblhau’r trefniadau gweithredu ar gyfer rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-2020. Rwy’n awyddus i weld cymaint o symleiddio ac integreiddio â phosibl a hoffwn adrodd ar ddau ddatblygiad allweddol, sef:
· cyflawni’r argymhellion Adolygiad Guilford; a
· sefydlu Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru unigol ar gyfer y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi.
20. Mae synergedd a chysylltiadau rhwng y Cronfeydd Strwythurol a Rhaglenni UE eraill a reolir yn uniongyrchol gan y Comisiwn yn bwysig iawn hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n archwilio’r Rhaglenni hyn gyda’r bwriad o fanteisio ymhellach ar gyfleoedd a manteision a chynyddu eu proffil yng Nghymru.
21. Cymru oedd un o’r rhanbarthau cyntaf i lansio’r rhaglen Horizon 2020 mewn digwyddiad clodfawr ar 13 Tachwedd 2013. Bydd y rhaglen sy’n olynu’r Seithfed Rhaglen Fframwaith (neu FP7) yn werth tua £65 biliwn ledled yr UE ac mae WEFO wedi sefydlu uned benodol i ddarparu cymorth ac arweiniad ar gyfleoedd a ddarperir o dan y rhaglen hon.
Adolygiad Guilford o Drefniadau Gweithredu
22. Roedd
adolygiad Dr Guilford o blaid newid WEFO i fodel darparu symlach,
mwy strategol a nododd bod y profiad a’r wybodaeth a enillwyd
yn weithredol wrth newid i’r dull mwy strategol hwn wedi
darparu sylfaen diogel er mwyn meithrin gallu’r rhaglen i
ddarparu yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y pedwar
argymhelliad ar ddeg a nodwyd yn yr Adolygiad.
23. Argymhelliad canolog Dr Guilford yw i WEFO ddatblygu Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd ar draws y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd i sicrhau mwy o ffocws a chanolbwyntio wrth ddefnyddio’r cronfeydd hyn. Bydd y Fframwaith yn cefnogi blaenoriaethu prosiectau sy’n amlwg yn gyson â chyfleoedd allweddol ar gyfer twf economaidd ac sy’n ychwanegu gwerth at raglenni buddsoddi’r sector cyhoeddus a phreifat.
24. Cyhoeddwyd fersiwn gyntaf y Fframwaith ym mis Tachwedd 2013, ochr yn ochr â drafft pennod Cymru o’r Cytundeb Partneriaeth a Rhaglenni Gweithredol drafft Cymru. Mae swyddogion WEFO yn parhau i weithio gydag adrannau polisi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i goethi’r Fframwaith ymhellach; bydd fersiwn wedi’i ddiweddaru’n cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth. Mae’r Fframwaith yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei diweddaru gydol cyfnod y rhaglen i adlewyrchu newidiadau i’r amgylcheddau economaidd a strategol, cyfleoedd economaidd newydd a’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar weithredu’r rhaglenni.
25. Mae WEFO yn paratoi cyfres fanwl o ganllawiau sy’n ymwneud â gweithredu Cronfeydd Strwythurol 2014-2020 mewn cydweithrediad â phartneriaid, gan gynnwys Pwyllgor Monitro Rhaglenni cysgodol sydd newydd ei sefydlu (gweler isod). Bydd hyn yn mynd i’r afael â llawer o’r argymhellion sy’n weddill o adolygiad Guilford a byddant ar gael ar ffurf drafft ym mis Mawrth.
Pwyllgor Monitro Rhaglenni newydd Cymru
26. Sefydlwyd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd newydd Cymru tua diwedd 2013 ac mae wedi cyfarfod ddwywaith hyd yma ar ffurf gysgodol tan y ceir cytundeb ar y rhaglenni newydd, ym mis Rhagfyr 2013 a mis Chwefror 2014. Mae’n darparu asesiad mwy cyfannol o effaith ac effeithlonrwydd y cronfeydd yn erbyn y Fframwaith Blaenoriaethu Economaidd newydd a’r wybodaeth fonitro a argymhellwyd gan Dr Guilford.
27. Mae’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni eisoes wedi archwilio’r meini prawf asesu arfaethedig a fydd yn cael eu defnyddio gan awdurdodau’r rhaglen i ddewis prosiectau unigol i dderbyn cefnogaeth gan gronfeydd yr UE. Maes o law, bydd cytuno’r meini prawf yn ffurfiol yn galluogi i benderfyniadau cynnar gael eu gwneud ar gymeradwyo’r prosiectau UE cyntaf cyn gynted ag y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno ar y rhaglenni newydd.
28.Cynlluniwyd cyfansoddiad Pwyllgor Monitro'r Rhaglen a’r prosesau recriwtio i sicrhau cynrychiolaeth gref o’r sector preifat, cydbwysedd rhwng y rhywiau, cynrychiolaeth o bob rhanbarth daearyddol, a gwybodaeth am bob un o dair cronfa’r UE. Mae dros draean y Pwyllgor (35%) yn cynrychioli busnes a menter neu, yn achos y rhai a benodwyd nad ydynt yn cynrychioli eraill, arbenigedd sector preifat. Mae cynrychiolaeth y sector preifat yn amrywiol, gan gynnwys masnach gyffredinol, busnesau gwledig a ffermio, gweithwyr mewn sefydliadau sector preifat, a mentrau cymdeithasol. Mae Atodiad A yn dangos aelodaeth Pwyllgor Monitro’r Rhaglen.
Atodiad A
Aelodaeth Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru 2014-2020
Cadeirydd |
|
Aelod Cynulliad, penodir gan y Prif Weinidog |
Jenny Rathbone AC
|
Awdurdodau lleol a grwpiau cenedlaethol, rhanbarthol, trefol/ dinas-ranbarth |
|
Llywodraeth Leol Enwebiadau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Y Cynghorydd Bob Wellington Y Cynghorydd Ronnie Hughes
|
Llywodraeth Leol Prif dderbynyddion cronfeydd yr UE |
Cath Jenkins (AdAS) Marcella Maxwell (DEST) Matthew Quinn (Dyfodol Cynaliadwy)
|
Grwpiau Gweithredu Lleol ARWEINYDD/ Datblygu Lleol dan Arweiniad y Gymuned
|
I’w enwebu ar ôl cwblhau’r broses ymgeisio a dynodi LEADER Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 |
Llywodraeth y DU (gwasanaethau cyflogaeth gyhoeddus) Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Canolfan Byd Gwaith
|
Jocelyn Llewelyn Enwebiad gan y Ganolfan Byd Gwaith |
Partneriaid Economaidd a Chymdeithasol |
|
BUSNES A MENTER |
|
Cynrychiolwyr busnes a menter Undebau Llafur, cymdeithasau proffesiynol neu fasnach: yn cynrychioli mentrau preifat Masnachol |
Ann Beynon 1 Iestyn Davies 1 Margaret Thomas 2 Martin Mansfield 2 Tom Whyatt 3 1 Enwebiadau gan Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru/ Commerce Cymru 2 Enwebiadau gan TUC Cymru 3 Enwebiad gan Diwydiant Cymru |
Cynrychiolwyr busnesau ffermio a gwledig Undebau’r Ffermwyr, cymdeithasau proffesiynol neu fasnach: yn cynrychioli mentrau Gwledig, ffermio, bwyd |
Rhian Nowell-Phillips 1
Karen Anthony 2
1 Enwebiad ar y cyd gan NFU Cymru a FUW 2 Enwebiad gan CLA Cymru, yn cynrychioli’r economi wledig |
Busnes a menter y trydydd sector Economi gymdeithasol, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydfuddiannol, cydweithfeydd, undebau credyd ac ati |
Derek Walker Enwebiad gan Ganolfan Cydweithredol Cymru |
SEFYDLIADAU ADDYSGOL |
|
Addysg Bellach |
Gregg Walker Enwebwyd gan Colegau Cymru |
Addysg Uwch |
Dr David Blaney 1 April McMahon 2
1 Enwebiad gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 2 Enwebiad gan Addysg Uwch Cymru |
Y TRYDYDD SECTOR |
|
Y Trydydd Sector Heblaw mentrau cymdeithasol |
Phil Fiander Enwebiad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
|
Cynrychiolwyr cyrff amgylcheddol a chydraddoldeb a chymdeithas sifil |
|
Penodiadau Cyhoeddus Cystadleuaeth agored, penodiadau ar sail teilyngdod (arbenigedd unigol – ddim yn cynrychioli sector neu sefydliad) |
David (Dai) Davies Yr Athro Richard B Davies Dr Grahame Guilford Joy Kent Sian Price Beth Winkley |
Cynaliadwyedd amgylcheddol Cyrff statudol |
Rhian Jardine Enwebiad Cyfoeth Naturiol Cymru |
Cyrff Anllywodraethol Amgylcheddol Canolbwyntio, er nad yn unig o bosibl, ar fesurau amaeth-amgylchedd-hinsawdd y Cynllun Datblygu Gwledig |
Arfon Williams Enwebiad ar y cyd gan RSPB Cymru a Cyswllt Amgylchedd Cymru |
[1] Y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd fel y meant yn berthnasol i Gymru yw Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop.